Diwylliant ac Adloniant

cArdiCWSTIG

Mattoidz - cArdiCWSTIGBwriad cArdiCWSTIG yw datblygu cylchdaith adloniant ysgafn Gymraeg yng Ngheredigion. Y syniad yw cynnal nosweithiau amrywiol gan gyfuno cerddoriaeth acwstig gydag adloniant mwy amgen fel barddoniaeth, ‘standup’ neu ffilmiau byr ac i gynnal y nosweithiau mewn ardaloedd mwy gwledig. Mae’r digwyddiadau’n cael eu trefnu gan grwpiau yn yr ardaloedd, gyda chefnogaeth Menter Iaith CERED a rhaglen Cynnal Ceredigion.

  

Lowri Evans - cArdiCWSTIG

Bu un gyfres y llynedd, ac mae yna gyfres newydd wedi

dechrau eleni. Edrychwch ar y dudalen Digwyddiadau

am wybodaeth am ddigwyddiadau y dyfodol.

Am ragor o fanylion cysylltwch â Cynnal Ceredigion ar

01239 622438/9 neu ebostio cmiles@anturteifi.org.uk neu

CERED ar 01545 572350 neu

ebostio cered@ceredigion.gov.uk.



Eisteddfodau

Mae Ceredigion yn un o’r siroedd cyfoethocaf o ran yr Eisteddfodau lleol, gyda chymaint â 16 ohonynt yn cael eu cynnal yn flynyddol ledled y sir. Yn hyn o beth roeddent yn grŵp amlwg iawn i Cynnal Ceredigion eu targedu. Y peth amlycaf a adwaenwyd oedd bod angen cymorth o ran hyrwyddo ar yr Eisteddfodau er mwyn denu mwy o gystadleuwyr a chynulleidfa.  Aethpwyd ati i edrych ar ffyrdd o hyrwyddo’r Eisteddfodau ar y cyd a chynhyrchwyd 4 taflen llynedd  i hyrwyddo’r 16 Eisteddfod a gynhelir yng Ngheredigion.  Yn dilyn llwyddiant y rhain, penderfynwyd eleni grynhoi pob un o’r 16 mewn un llyfryn lliwgar a deniadol. Mae hwn wedi’i ddosbarthu’n helaeth yng Ngheredigion a thu hwnt ac mae canolfannau twristiaeth wedi bod yn arbennig o falch o’i dderbyn. Bydd llyfryn eleni’n parhau’n hirach na’r pamffledi unigol ac mae’r ymateb yn ffafriol dros ben yn barod.                 

                                 Llyfrynnau Eisteddfodau Sir Gar a Ceredigion

Mae nifer o’r Eisteddfodau yn y sir wedi manteisio ar sesiynau hyfforddiant ‘Trefnu Gwyliau a Digwyddiadau’, ‘Hyfforddiant Diogelwch i Wirfoddolwyr’ a ‘Hyfforddiant Dylunio’. Cynhaliwyd y rhain gan Cynnal Ceredigion, sydd wedi ymestyn gwaith gyda’r Eisteddfodau lleol i ardal ehangach gan ffurfio ‘Grŵp Cefnogi Eisteddfodau Lleol’.  Mae’n gweithio ar y cyd gyda swyddogion Milltir Sgwâr, Diwylliant Byw, Arloesi Gwledig, Rhwydwaith Papurau Bro Cymru, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, CERED a Menter Iaith Sir Benfro i ddatblygu prosiectau dros ardal fwy rhanbarthol.

Am rhagor o wybodaetham yr Eisteddofdau, cewch i wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

www.steddfota.org


Cefnogaeth Ymarferol

Tystysgrif Diogelwch i Wirfoddolwyr Cymunedol

Tystysgrif Diogelwch i Wirfoddolwyr CymunedolMae’r hyfforddiant yma wedi cael ei drefnu gan Cynnal Ceredigion mewn partneriaeth gyda Choleg Ceredigion, er mwyn paratoi gwirfoddolwyr cymunedol ar gyfer cynorthwyo i stiwardio mewn digwyddiadau, ac yn ystyried yr holl reolau newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar.

Mae’r cwrs yn edrych ar Iechyd a Diogelwch, Cyfrifoldebau, Stiwardio, Diogelwch ac Ymwybyddiaeth, sydd yn cael eu cynnal dros ddwy noson, ac yn rhad ac am ddim. Gall mynychu’r hyfforddiant hwn gryfhau cais am drwydded i’r Cyngor Sir. Bydd cyfranogwyr yn derbyn tystysgrif a manylion ynglyn â sut i fynd ymlaen i wneud y cwrs Trwydded Diogelwch llawn yng Ngholeg Ceredigion.

Trefnu Gwyliau a Digwyddiadau Cymunedol

Mae’r sesiynau yma ar gyfer unigolion a grwpiau sy’n trefnu digwyddiadau yn eu cymuned, neu am ddysgu sut i fynd ati. Mae’r sesiynau wedi eu teilwro ‘n arbennig ar gyfer digwyddiadau bychain e.e. Eisteddfodau Lleol neu nosweithiau adloniant mewn neuaddau pentref. Mae’r sesiynau yma yn cael eu cynnal dros ddwy noson ac yn rhad ac am ddim, ac yn rhoi cyflwyniad i’r canlynol:

Sesiwn 1 – Cynllunio a Threfnu
Rhestri gwirio, asesi risg, polisiau a thrwyddedu

Sesiwn 2 – Ariannu
Economi Cymysg, Cyfleoedd am grantiau, Arian Ymddiriedolaethau, Nawdd, Cyfleoedd i wneud y gorau o ddigwyddiadau, enghreifftiau

Am ragor o wybodaeth am y Tystysgrif Diogelwch i Wirfoddolwyr Cymunedol neu Trefnu Gwyliau a Digwyddiadau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni, neu cewch i’r dudalen Digwyddiadau, i weld os oes 'na sesiynau wedi ei drefnu yn y dyfodol agos yn eich ardal chi.