![]() |
Cynnal Ceredigion yw’r enw lleol ar raglen Gweithredu Dros Gymunedau Gwledig a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Antur Teifi sydd yn rheoli’r rhaglen, ac yn ei weithredu ar y cyd gyda Chyngor Sir Ceredigion.
Mae Cynnal Ceredigion yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddol er mwyn datblygu eu galluoedd, mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar alluogi grwpiau i gynnal digwyddiadau diwylliannol cymunedol. Eu hysbrydoli hefyd i sefydlu mentrau cymunedol a chymdeithasol – troi syniadau’n weithredoedd er mwyn gwneud gwahaniaeth yng Ngheredigion.
Wedi ei sefydlu yn 1979, mae Antur Teifi yn gweithredu drwy Geredigion, Sir Gaerfyrddin a thu hwnt. Cwmni yn y trydydd sector yw Antur Teifi ac felly mae’n pontio’r bwlch rhwng y sector breifat a’r sector gyhoeddus. Mae unrhyw elwa’n cael ei ddefnyddio ar gyfer mentrau cymunedol ac mae’r Bwrdd Rheoli gwirfoddol a’r staff proffesiynol yn atebol i’r cyfranddalwyr a’r cynrychiolwyr cymunedol.
Digwyddiadau Cynnal Ceredigion
Fforwm Cyfleusterau Cymunedol a Neuaddau Pentref
30 Mehefin 2008
Am rhagor o wybodaeth, cewch i'r dudalen Digwyddiadau.